Rydym eisiau bod yno i bob plentyn neu berson ifanc sydd angen ein cefnogaeth, unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn, unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Mae Childline yn un gwasanaeth, gyda thri chynnig craidd i blant a phobl ifanc
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi amser llawn a rhan-amser (17.5 awr) yn Childline Prestatyn. Byddem yn fodlon trafod eich dewisiadau personol yn ystod y cyfweliad.
Byddwch yn defnyddio'ch sgiliau'n hyblyg i gefnogi gwirfoddolwyr wrth iddynt siarad â phlant. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol drwy ymateb i gysylltiadau yn eich rôl fel Ymarferydd Childline (Cyffredinol). Byddwch yn arwain ar benderfyniadau diogelu allweddol yn ystod eich shifftiau ac yn defnyddio hyfforddiant i gynnal a datblygu ansawdd y gwasanaeth. Byddwch yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn gwasanaeth o ansawdd uchel a thu allan i'r shifft byddwch yn darparu goruchwyliaeth, adborth, hyfforddiant a chefnogaeth effeithiol i wirfoddolwyr.
Rydym yn cefnogi cannoedd o filoedd o blant ledled y DU bob blwyddyn. Fel Ymarferydd Childline (Cyffredinol) byddwch yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn ochr yn ochr â thîm ymroddedig a fydd yn rhannu eich gwerthoedd o gefnogi plant a phobl ifanc.
Byddwch yn gweithio rota hybrid sy'n cynnwys cydbwysedd cyson o shifftiau bore, dydd, a gyda'r nos ar draws patrwm 6 wythnos sy'n cynnwys gweithio un penwythnos o bob tri (neu un penwythnos o bob chwech ar gyfer cydweithwyr rhan-amser). Mae amser wedi'i gynnwys ar gyfer penwythnosau 3 diwrnod a gellir gwneud traean o'r diwrnodau gwaith gartref. Mae pob Ymarferydd Childline (Cyffredinol) yn derbyn lwfans rota o 7% ar ben ei gyflog sylfaenol.
Mae enghraifft o'r patrwm rota ar gyfer y rôl hon ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanyleb person lawn. Gofynnwn i bob ymgeisydd roi sylw a dangos tystiolaeth ei fod yn bodloni pob un o'r pwyntiau ym manyleb y person yn ei ddatganiad ategol (gan beidio â mynd dros y terfyn geiriau o 10,000 o nodau).
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Recriwtio Llinellau Cymorth yn HelplinesRecruitment@NSPCC.org.uk.
Mae ein proses recriwtio dreigl yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i bob cais a gyflwynir, sy'n golygu ein bod yn gallu symud ymgeiswyr yn eu blaenau drwy'r broses recriwtio cyn y dyddiad cau a byddwn yn cau'r swydd wag unwaith y bydd pob swydd wedi'i llenwi.
Peidiwch ag oedi, gwnewch gais heddiw a dod yn rhan o dîm sy'n credu yn y gwaith maen nhw'n ei wneud a'r bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw. Byddwch yn darganfod cyfleoedd i dyfu, ynghyd â heriau a phwrpas cyffredin a fydd yn cael y gorau ohonoch. A byddwch yn gallu darganfod eich ffordd eich hun o wneud gwahaniaeth sy'n golygu mwy, ac sy'n effeithio ar filiynau o fywydau ifanc.
Mae'r NSPCC wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae eisiau denu amrywiaeth o bobl dalentog. Mae'r NSPCC yn llwyr gefnogi hawliau a chyfleoedd yr holl staff i geisio, cael a chadw cyflogaeth ac i fwynhau cyfleoedd cyflogaeth cyfartal heb wahaniaethu.
We want to be there for every child or young person who needs our support, any day of the year, any time of day or night. Childline is one service, with three core offers for children and young people
We're currently recruiting for a number of full time and part time (17.5 hour) positions in Childline Prestatyn. We would be happy to discuss your personal preferences during interview.
You will use your skills flexibly to support volunteers while they talk to children. You will also have opportunities to directly support children and young people by responding to contacts in your role as a Childline Practitioner (Universal). You will lead on key on-shift safeguarding decisions and use coaching to maintain and develop the quality of the service. You will ensure every child and young person receives a high-quality service and outside of shift provide effective supervision, coaching, feedback, training and support to volunteers.
We support hundreds of thousands of children all over the UK every year. As a Childline Practitioner (Universal) you will deliver this vital service alongside a committed and dedicated team who will share your values of supporting children and young people.
You will work a hybrid rota which includes a consistent balance of morning, daytime, and evening shifts across a 6-week pattern, which includes weekend working one in every three weeks (or one in six weeks for part time colleagues). There is built in time for 3-day weekends and a third of the working days can be done from home. Every Childline Practitioner (Universal) receives a 7% rota allowance on top of their basic salary.
You can see an example rota pattern for this role attached to this advert.
To be successful in this role, you will need to be someone who
Please refer to the job description for a full person specification. We ask all candidates to address and evidence that they meet each of the points in the person specification in their supporting statement (within a total word limit of 10,000 characters).
If you would like any further information about the role, please contact Helplines Recruitment at HelplinesRecruitment@NSPCC.org.uk.
Our rolling recruitment process ensures that we remain agile and responsive to all applications submitted, allowing us to progress candidates through the recruitment process prior to the vacancy closing date and will close the vacancy once all positions have been filled.
Don't wait, apply today and become part of a team that cares about the work they do and the people they work with. You'll discover opportunities to grow, along with challenges and a shared purpose that'll bring the best out in you. And you'll get to find your own way to make a difference that means more, and that impacts millions of young lives.
The NSPCC is committed to equality and diversity and wants to attract a range of talented people. The NSPCC fully supports the rights and opportunities of all staff to seek, obtain and hold employment and to enjoy equal employment opportunities without discrimination.
As an organisation, we are committed to creating and fostering a culture that promotes safeguarding and the welfare of all children and adults at risk. Our safer recruitment practices support this by ensuring that there is a consistent and thorough process of obtaining, collating, analysing and evaluating information from and about candidates to ensure that all persons appointed are suitable to work with our children and adults.
Siobhan Walters / Children's Services